|
Saif Tyddyn Difyr ar arfordir hardd gorllewin Llŷn, rhyw ddwy filltir o Abersoch. Mae'r bwthyn yn cynnwys tair ystafell wely, cegin ac ystafell fyw gyda golygfa o'r môr ac Ynys Enlli. Mae Porth Neigwl, tair milltir o draeth tywodlyd yn ymestyn o fynydd y Rhiw i Ben Cilan, o fewn tri chanllath. Mae dewis da o draethau o gwmpas Llŷn yn ogystal â llwybrau cerdded ar hyd yr arfordir a'r bryniau, a phentrefydd bychan i ymweld â hwy.
Diolch am ymweld â'n gwefan.
|